About the event

Ry’n ni yma. Beth nawr?  

Ers mis Medi 2017, mae gweithdai drama, dawns ac adrodd stori wedi bod yn cael eu cynnal fel rhan o raglen datblygu celfyddydau Gwneud Noddfa, a gydlynir gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, mewn partneriaeth ag Oasis Caerdydd, Space 4U, Canolfan Mileniwm Cymru, Amgueddfa Stori Caerdydd a Theatr Sherman. Ariennir y rhaglen gan Gyngor Celfyddydau Cymru, People’s Postcode Trust, Glan yr Afon a Chanolfan Mileniwm Cymru.

 

Dan arweinyddiaeth grŵp o artistiaid, sy’n dal i dyfu mewn nifer: Angharad Evans, Aleksandra Jones, Abdul Shayek, Bevin Magama, Cath Little, Denni Dennis, Dominika Rau ac Oscar, Karla a  Marie Serrano, mae grŵp y Symudiad yw’r Neges yn cwrdd i gael hwyl a chreu perfformiadau sy’n dathlu ymfudo. Ers dechrau mis Mai mae teulu Serrano wedi sefydlu the United Cultures Dance Clan, sy’n cwrdd ddwywaith yr wythnos i rannu arddulliau dawns a chreu perfformiad sy’n arddangos rhai o’r darnau dawns hyn.

Mae’r perfformiad hwn yn cynnig blas ar y daith hyd yma, ac yn gofyn i chi ein helpu i benderfynu – beth nawr?