Wythnos Ffoaduriaid
Mae’r Wythnos Ffoaduriaid yn cael ei chynnal bob blwyddyn ar draws y byd yn ystod yr wythnos o gwmpas Diwrnod Ffoaduriaid y Byd ar 20 Mehefin. Eleni cynhelir yr wythnos o 15 Mehefin i 21 Mehefin.
Eleni mae’r Wythnos Ffoaduriaid yn cyrraedd carreg filltir bwysig: 20 mlynedd o ddathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid. Dathlu’r ugeinfed pen-blwydd fydd thema Wythnos Ffoaduriaid 2018, ac mae trefnwyr y DU yn gwahodd pobl i gymryd rhan gyda 20 ffordd o sefyll gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches – un ar gyfer pob blwyddyn o’r Wythnos Ffoaduriaid.
Ym Mhrydain, mae’r Wythnos Ffoaduriaid yn rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau celfyddydol, diwylliannol ac addysgiadol sy’n dathlu cyfraniad pobl sy’n ceisio lloches yn y DU, gan annog gwell dealltwriaeth rhwng cymunedau.
Mae’r Wythnos Ffoaduriaid yn ŵyl ar lawr gwlad, felly gall unrhyw un gymryd rhan trwy drefnu, mynd i neu gymryd rhan mewn gweithgareddau. Cynhelir digwyddiadau gan amrywiaeth eang o sefydliadau cymunedol a chelfyddydol, sefydliadau ffoaduriaid, ysgolion, grwpiau, myfyrwyr a mwy. Mae digwyddiadau yn y gorffennol wedi cynnwys gwyliau celf, arddangosfeydd, dangosiadau ffilm, perfformiadau theatr a dawns, cyngherddau, twrnameintiau pêl-droed a sgyrsiau cyhoeddus, yn ogystal â gweithgareddau creadigol ac addysgol mewn ysgolion.
Amcanion yr Wythnos Ffoaduriaid yw:
Darparu llwyfannau i geiswyr lloches a ffoaduriaid i gael eu gweld, i godi eu llais ac i gael eu gwerthfawrogi; ac i arddangos y dalent a’r arbenigedd y mae pobl yn dod gyda nhw i’r DU.
Annog ystod eang o ddigwyddiadau i gael eu cynnal ledled y DU, sy’n hwyluso cyfarfyddiadau cadarnhaol rhwng pobl sydd wedi cael eu dadleoli a’r cyhoedd ehangach, i annog mwy o ddealltwriaeth o realiti ceisio lloches yn y DU, a sefyllfaoedd rhyfel, erledigaeth a thrais sy’n gorfodi pobl i adael eu cartref a cheisio lloches.
Y nod yn y pen draw yw creu diwylliant o groeso yn y DU, gyda gwell integreiddio a dealltwriaeth rhwng cymunedau, gan alluogi pobl sy’n ceisio lloches i fyw yn ddiogel ac i ymarfer a datblygu eu sgiliau a’u huchelgeisiau.
Dathlu yng Nghymru
Mewn ymateb i thema Wythnos Ffoaduriaid y DU, sef dathlu 20 mlynedd o Wythnos Ffoaduriaid, mae rhaglen datblygu celfyddydau Cyngor Ffoaduriaid Cymru – Gwneud Noddfa – wedi bod yn archwilio’r thema DATHLU – gan ofyn beth yn ein bywyd yr hoffem ei ddathlu – o’r pethau bach sy’n codi calon ac yn rhoi gwên ar wyneb i’r pethau pwysig, arwyddocaol.
Ein ffocws yw dathlu NODDFA; y bobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru, a’r bobl a’r sefydliadau sy’n gweithio tuag at sicrhau bod newydd-ddyfodiaid yn teimlo bod croeso iddynt yma, ac i ddiogelu a gweithredu hawliau dynol. Rydym eisiau dathlu’r symudiad i wneud Cymru yn Genedl Noddfa, a Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid arfaethedig Llywodraeth Cymru sy’n amlygu’r cyfraniad y bydd ein harweinwyr yn ei wneud tuag at hyn.
Rydym yn dymuno dathlu’r teimlad o fod ADREF ac archwilio beth yw ystyr ADREF i bobl.
Rydym eisiau dathlu DEDDF HAWLIAU DYNOL Y DU, sy’n 20 mlwydd oed eleni ac archwilio sut mae’r hawliau sydd wedi eu sefydlu yn cael eu hybu a’u diogelu gan grwpiau cymunedol, busnesau, Llywodraeth Cymru a chyrff anllywodraethol (ac amlygu lle nad yw hynny’n digwydd). Rydym eisiau amlygu bod yr hawliau hyn yn berthnasol i bob unigolyn ac i bawb eu mwynhau, beth bynnag fo’u statws mewnfudo. Rydym eisiau meithrin ymdeimlad o undod drwy amlygu’r anghenion a’r hawliau sydd gan bawb yn gyffredin.
Yn ehangach, drwy ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod ac o amgylch Wythnos Ffoaduriaid, hoffem ddathlu YMFUDO, a’r cymysgedd cyfoethog o ddiwylliant, sgiliau ac arbenigedd y mae chyfraniad cymunedau diaspora wedi dod i Gymru dros y blynyddoedd.
Eleni rydym yn ymestyn dathliadau Wythnos Ffoaduriaid i fis Mehefin a mis Gorffennaf i alluogi mwy o amser i ddathlu’r holl themâu hyn. Yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru rydym yn trefnu cyfres o WEITHGAREDDAU CERDDED rhyngweithiol, gyda pherfformiadau, sgwrsio a bwyd, dan gyfarwyddyd artistiaid sydd wedi cael profiad o ddadleoli. Gwyliwch y gofod hwn ar gyfer dyddiadau.
Cymerwch ran
A hoffech chi neu’ch sefydliad gymryd rhan yn rhialtwch Wythnos Ffoaduriaid (18 i 24 Mehefin) a’r misoedd Mehefin a Gorffennaf?
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gefnogi’r ŵyl:
Gallwch drefnu digwyddiad – Rhannwch eich manylion ar y ffurflen amgaeedig os hoffech hyrwyddo eich digwyddiad ar wefannau Wythnos Ffoaduriaid Cymru ac Wythnos Ffoaduriaid y DU.
Byddwch yn rhan o ddigwyddiad neu arddangosfa a drefnir gan grŵp arall – cysylltwch â ni i roi gwybod am eich diddordebau a’ch sgiliau ac fe wnawn ni ein gorau i’ch cysylltu chi â grŵp sy’n trefnu digwyddiad.